3 Bydd llygaid y rhai sy'n gweld yn edrych,a chlustiau'r rhai sy'n clywed yn gwrando.
4 Bydd y difeddwl yn oedi ac yn sylwi,a thafod y rhai sydd ag atal dweud yn siarad yn glir.
5 Fydd y ffŵl ddim yn cael ei alw'n ŵr bonheddig,na'r twyllwr yn cael ei anrhydeddu.
6 Achos dweud pethau ffôl mae ffŵla cynllunio i wneud pethau drwg.Mae'n ymddwyn yn annuwiolac yn dweud celwydd am yr ARGLWYDD.Mae'n gadael y newynog hefo stumog wagac yn gwrthod rhoi diod i'r sychedig.
7 Mae arfau'r twyllwr yn ddrwg.Mae'n cynllunio i wneud drwg –dinistrio pobl dlawd trwy eu twylloa cham-drin yr anghenus yn y llys.
8 Ond mae bwriadau'r person anrhydeddus yn dda,ac mae bob amser yn gwneud beth sy'n nobl.
9 Chi wragedd cyfforddus, safwch!Gwrandwch arna i!Chi ferched heb bryder yn y byd,gwrandwch beth dw i'n ddweud!