9 Chi wragedd cyfforddus, safwch!Gwrandwch arna i!Chi ferched heb bryder yn y byd,gwrandwch beth dw i'n ddweud!
10 Mewn llai na blwyddyn,cewch chi sydd mor hyderus eich ysgwyd.Bydd y cynhaeaf grawnwin yn methu,a dim ffrwyth i'w gasglu.
11 Dylech chi sy'n gyfforddus ddechrau poeni!Dylech chi sydd mor ddibryder ddechrau crynu!Tynnwch eich dillad! Stripiwch!Gwisgwch sachliain am eich canol,
12 ac am y bronnau sy'n galaru!Dros y caeau hyfryd,a'r coed gwinwydd ffrwythlon.
13 Dros dir fy mhobl,bydd drain a mieri yn tyfu.Ie, dros yr holl dai hyfryd,a'r dre llawn miri.
14 Bydd y palas wedi ei adael,a'r ddinas boblog yn wag.Bydd y tyrau amddiffyn ar y bryniauyn troi'n foelydd am byth –yn gynefin i asynnod gwyllta phorfa i breiddiau.
15 Nes i ysbryd oddi uchod gael ei dywallt arnon ni,i'r anialwch gael ei droi'n gaeau ffrwythlon,a'r caeau droi'n goedwig.