1 Gwae ti'r dinistriwr sydd heb gael dy ddinistrio;ti'r bradwr sydd heb gael dy fradychu!Pan fyddi wedi gorffen dinistrio, cei di dy ddinistrio;pan fyddi wedi gorffen bradychu, cei di dy fradychu!
2 O ARGLWYDD, bydd yn drugarog wrthon ni!Dŷn ni'n disgwyl amdanat ti.Bydd di yn nerth i ni yn y bore,ac achub ni pan dŷn ni mewn trwbwl.
3 Pan wyt ti'n rhuo mae pobl yn ffoi!Pan wyt ti'n codi mae cenhedloedd yn gwasgaru!
4 Mae'r ysbail maen nhw'n ei adael yn cael ei gasglufel petai lindys neu haid o locustiaid wedi disgyn arno.
5 Mae'r ARGLWYDD mor ardderchog!Mae'n byw yn yr uchelder!Mae'n llenwi Seiongyda chyfiawnder a thegwch.
6 Fe sy'n rhoi sicrwydd iddi bob amser.Stôr helaeth o achubiaeth, doethineb, gwybodaeth,a pharch at yr ARGLWYDD – dyna ei drysor iddi.