13 Chi sy'n bell i ffwrdd,gwrandwch beth dw i wedi ei wneud!A chi sy'n agos,gwelwch mor nerthol ydw i.”
14 Mae pechaduriaid Seion wedi dychryn,Mae'r rhai annuwiol yn crynu mewn ofn.“Pwy all oroesi yn y tân dinistriol yma?Pwy all fyw gyda fflamau sydd byth yn diffodd?”
15 Yr un sy'n gwneud beth sy'n iawnac yn dweud y gwir,sy'n gwrthod elwa drwy dwyll,na derbyn breib,yn gwrthod gwrando ar gynllwyn i dywallt gwaed,ac yn cau ei lygaid rhag cael ei ddenu i wneud drwg.
16 Person felly fydd yn saff rhag y cwbl,a chreigiau uchel yn gaer o'i gwmpas.Bydd bwyd yn cael ei roi i'w gynnala bydd digonedd o ddŵr iddo.
17 Byddi'n gweld brenin yn ei holl ysblander,a thir eang yn ymestyn i'r pellter.
18 Byddi'n cofio am yr ofn a fu unwaith,“Ble mae'r un oedd yn cyfri'r trethi?Ble mae'r un oedd yn pwyso'r arian?Ble mae'r un oedd yn cyfri'r tyrau?”
19 Fyddi di ddim yn gweld y bobl farbaraidd yna eto –yn siarad iaith doeddet ti ddim yn ei deall,ac yn paldaruo'n ddiystyr.