7 Gwrandwch! Mae eu harwr yn gweiddi y tu allan!Mae negeswyr heddwch yn wylo'n chwerw!
8 Mae'r priffyrdd yn wag!Mae'r teithwyr wedi diflannu!Mae'r cytundebau wedi eu torri,a'r tystion yn cael eu dirmygu.Does dim parch at fywyd dynol.
9 Y fath alar! Mae'r tir wedi darfod amdano!Mae Libanus yn crino a gwywo!Mae Saron fel anialwch,a Bashan a Carmel wedi colli eu dail.
10 “Dw i'n mynd i godi nawr,” meddai'r ARGLWYDD,“Dw i'n mynd i godi i fyny, cewch weld mor uchel ydw i!
11 Dim ond us dych chi'n ei feichiogi;dim ond gwellt fydd yn cael ei eni!Mae eich ysbryd fel tân fydd yn eich dinistrio chi!
12 Bydd eich pobl fel calch wedi ei losgi,neu ddrain wedi eu torri a'u rhoi ar dân.
13 Chi sy'n bell i ffwrdd,gwrandwch beth dw i wedi ei wneud!A chi sy'n agos,gwelwch mor nerthol ydw i.”