5 Bydd llygaid pobl ddall yn cael eu hagor,a chlustiau pobl fyddar hefyd.
6 Bydd y cloff yn neidio fel hydd,a'r mud yn gweiddi'n llawen!Achos bydd dŵr yn tasgu yn yr anialwch,ac afonydd yn llifo yn y diffeithwch.
7 Bydd y tywod poeth yn troi'n bwll dŵr,a'r tir sych yn ffynhonnau'n ffrydio.Bydd y fan ble roedd siacaliaid yn gorweddianyn troi'n gorsydd o frwyn.
8 Bydd priffordd; ie, ffordd ynosy'n cael ei galw, "Y Ffordd Sanctaidd".Fydd neb sy'n aflan yn cael teithio arni –mae ar gyfer y rhai sy'n cerdded y Ffordd.Fydd ffyliaid ddim yn crwydro ar ei hyd.
9 Fydd dim llew yno,a fydd anifail gwyllt ddim yn dod yn agos ati –fydd dim i'w cael yno.Ond bydd y rhai sydd wedi eu rhyddhauyn cerdded ar ei hyd.
10 Bydd y bobl ollyngodd yr ARGLWYDD yn rhyddyn dod yn ôl i Seion yn bloeddio canu!Bydd y llawenydd sy'n para am bythyn goron ar eu pennau!Byddan nhw'n cael eu gwefreiddiogan hwyl a gorfoledd,am fod galar a griddfan wedi dianc i ffwrdd.