5 Siarad gwag ydy honni fod gen ti'r strategaeth a'r gallu milwrol angenrheidiol! Pwy wyt ti'n pwyso arno go iawn, dy fod yn beiddio gwrthryfela yn fy erbyn i?
6 Ai'r Aifft wyt ti'n ei drystio? Dydy'r ffon fagl yna ddim gwell na brwynen wedi hollti, ac mae'n torri llaw ac yn anafu pwy bynnag sy'n pwyso arni. Dyna sy'n digwydd i bawb sy'n trystio'r Pharo, brenin yr Aifft.
7 Neu ydych chi am ddweud wrtho i eich bod yn trystio'r ARGLWYDD eich Duw? Onid ydy Heseceia wedi cael gwared â'i ganolfannau addoli lleol a'i allorau e, a dweud wrth bobl Jwda mai dim ond wrth yr allor yn Jerwsalem maen nhw i addoli?
8 Tyrd nawr, beth am drafod telerau gyda fy meistr, brenin Asyria: Betia i di, petawn i'n rhoi dwy fil o geffylau i ti, na fyddai gen ti ddigon o ddynion i'w reidio nhw!
9 Felly sut alli di wrthod, hyd yn oed gynnig gan ddirprwy un o weision lleia fy meistr? Dwyt ti ddim yn mynd i fynnu dal ati i drystio'r Aifft am gerbydau a marchogion siawns?
10 A beth bynnag, wyt ti'n meddwl fy mod i wedi martsio yn erbyn y wlad yma i'w dinistrio hi heb i'r ARGLWYDD fy helpu i? Yr ARGLWYDD ei hun ddwedodd wrtho i: “Dos i ymladd yn erbyn y wlad yna a'i dinistrio hi!”’”
11 Dyma Eliacim, Shefna, a Ioach yn dweud wrth y prif swyddog, “Plîs siarada yn Aramaeg hefo dy weision; dŷn ni'n deall yr iaith honno. Paid siarad hefo ni yn Hebraeg yng nghlyw y bobl sydd ar y waliau.”