17 O ARGLWYDD, plîs gwrando! Agor dy lygaid ARGLWYDD! Edrych! Gwranda ar beth mae Senacherib yn ei ddweud. Mae e wedi anfon neges sy'n enllibio'r Duw byw!
18 ARGLWYDD, mae'n wir fod brenhinoedd Asyria wedi dinistrio'r bobloedd i gyd, a'u tiroedd,
19 ac wedi llosgi eu duwiau nhw. Ond doedden nhw ddim yn dduwiau go iawn, dim ond coed neu gerrig wedi eu cerfio gan bobl, i'w haddoli.
20 Felly nawr, O ARGLWYDD ein Duw, achub ni o'i afael, er mwyn i deyrnasoedd y byd i gyd wybod mai ti ydy'r ARGLWYDD, yr unig un go iawn.”
21 Dyma Eseia fab Amos yn anfon y neges yma at Heseceia:“Dyma mae'r ARGLWYDD, Duw Israel, yn ei ddweud: ‘Am dy fod ti wedi gweddïo am Senacherib, brenin Asyria,
22 dyma dw i, yr ARGLWYDD, yn ei ddweud yn ei erbyn:“Mae'r forwyn hardd, Seion, yn dy ddirmygu di!Mae hi'n gwneud hwyl ar dy ben di!Mae Jerwsalem hardd yn ysgwyd ei phentu ôl i dy gefn di.
23 Pwy wyt ti'n ei enllibio a'i wawdio?Yn erbyn pwy wyt ti'n codi dy lais,ac yn troi dy lygaid yn sarhaus?Yn erbyn Un Sanctaidd Israel!