6 Dw i'n mynd i dy achub di a'r ddinas yma o afael brenin Asyria. Bydda i'n amddiffyn y ddinas yma.”
7 “‘A dyma'r arwydd mae'r ARGLWYDD yn ei roi i ti i brofi y bydd e'n gwneud beth mae e wedi ei addo:
8 Edrych! Dw i'n mynd i wneud i'r cysgod sydd wedi disgyn ar risiau Ahas fynd yn ôl i fyny ddeg gris.’” Yna dyma gysgod yr haul yn codi oddi ar ddeg o'r grisiau yr oedd eisoes wedi disgyn arnyn nhw.
9 Dyma ysgrifennodd Heseceia, brenin Jwda, ar ôl iddo wella o'i salwch:
10 “Dywedais,‘Dw i'n mynd i farw, a minnau ond canol oed.Dw i wedi cael fy anfon drwy giatiau Annwnam weddill fy nyddiau.’
11 Dywedais:‘Ga i byth weld yr ARGLWYDDyn y bywyd hwn eto;nac edrych ar y ddynoliaethfel y rhai sydd wedi peidio â bod.’
12 Mae fy mywyd wedi ei gymryd oddi arna ia'i symud fel pabell bugail.Roedd fy mywyd wedi ei rholio i fyny fel lliainwedi ei dorri i ffwrdd o'r wŷdd.Rhwng y bore a'r nos byddet wedi rhoi diwedd arna i.