1 “Cysurwch nhw; cysurwch fy mhobl i,” –dyna mae eich Duw yn ei ddweud.
2 “Byddwch yn garedig wrth Jerwsalem,a dweud wrthi fod y dyddiau caled drosodd;mae hi wedi derbyn y gosb am ei drygioni.Yn wir, mae'r ARGLWYDD wedi gwneud iddidalu'n llawn am ei holl bechodau.”
3 Mae llais yn gweiddi'n uchel:“Cliriwch y ffordd i'r ARGLWYDDyn yr anialwch;gwnewch briffordd syth i Dduwdrwy'r diffeithwch!
4 Bydd pob dyffryn yn cael ei lenwi,pob mynydd a bryn yn cael ei lefelu.Bydd y tir anwastad yn cael ei wneud yn llyfn,a bydd cribau'r mynyddoedd yn wastatir.
5 Bydd ysblander yr ARGLWYDD yn dod i'r golwg,a bydd y ddynoliaeth gyfan yn ei weld yr un pryd.”—mae'r ARGLWYDD wedi dweud.