14 Gyda pwy mae Duw'n trafod i gael gwybod beth i'w wneud?Pwy sy'n ei ddysgu i wneud y peth iawn?Pwy sy'n rhoi gwybodaeth iddo?Pwy sy'n ei helpu i ddeall?
15 Dydy'r cenhedloedd ond diferyn mewn bwced;dim mwy na llwch ar glorian!Dydy'r ynysoedd yn ddim mwy na llwch mân.
16 Does dim digon o goed tân yn Libanus,na digon o anifeiliaid chwaith,i baratoi offrwm teilwng i'w losgi iddo.
17 Dydy'r gwledydd i gyd yn ddim o'i gymharu ag e –maen nhw fel rhywbeth dibwys yn ei olwg,yn llai na dim byd!
18 Felly, i bwy mae Duw yn debyg yn eich barn chi?Gyda beth allwch chi ei gymharu?
19 Eilun? Cerfiwr sy'n siapio hwnnw,a gof yn ei orchuddio ag aura gwneud bachau i'w ddal yn ei le!
20 Mae'r sawl sy'n rhy dlawdyn dewis pren fydd ddim yn pydru,ac yn edrych am y crefftwr goraui wneud eilun sydd ddim yn symud!