21 Ydych chi ddim yn gwybod?Ydych chi ddim wedi clywed?Oes neb wedi dweud wrthoch chi o'r dechrau?Ydych chi ddim yn deall sut gafodd y ddaear ei sylfaenu?
22 Fe ydy'r Un sy'n eistedd uwchben y ddaear,ac mae'r bobl sy'n byw arni fel ceiliogod rhedyn o'i flaen.Fe ydy'r Un sy'n taenu'r awyr fel llenni,ac yn ei lledu allan fel pabell i fyw ynddi.
23 Fe ydy'r un sy'n gwneud y pwysigion yn neb,a'r rhai sy'n llywodraethu ar y ddaear yn ddim.
24 Prin eu bod wedi eu plannu,prin eu bod wedi eu hau,prin eu bod wedi bwrw gwreiddiau yn y tir –mae e'n chwythu arnyn nhw ac maen nhw'n gwywo,ac mae gwynt stormus yn eu cario i ffwrdd fel us.
25 “I bwy dw i'n debyg yn eich barn chi?Oes rhywun arall cystal?”—meddai'r Un Sanctaidd.
26 Edrychwch i fyny ar y sêr!Pwy wnaeth eu creu nhw?Pwy sy'n eu galw nhw allan bob yn un?Pwy sy'n galw pob un wrth ei enw?Mae e mor gryf ac mor anhygoel o nerthol –does dim un ohonyn nhw ar goll.
27 Jacob, pam wyt ti'n dweud,“Dydy'r ARGLWYDD ddim yn gweld beth sy'n digwydd i mi”?Israel, pam wyt ti'n honni,“Dydy Duw yn cymryd dim sylw o'm hachos i”?