28 Wyt ti ddim yn gwybod?Wyt ti ddim wedi clywed?Yr ARGLWYDD ydy'r Duw tragwyddol!Fe sydd wedi creu y ddaear gyfan.Dydy ei nerth e ddim yn pallu;Dydy e byth yn blino.Mae e'n rhy ddoeth i unrhyw un ei ddeall!
29 Fe sy'n gwneud y gwan yn gryf,ac yn rhoi egni i'r blinedig.
30 Mae pobl ifanc yn pallu ac yn blino,a'r rhai mwya ffit yn baglu ac yn syrthio;
31 ond bydd y rhai sy'n pwyso ar yr ARGLWYDDyn cael nerth newydd.Byddan nhw'n hedfan i fyny fel eryrod;yn rhedeg heb flinoa cerdded ymlaen heb stopio.