3 Mae llais yn gweiddi'n uchel:“Cliriwch y ffordd i'r ARGLWYDDyn yr anialwch;gwnewch briffordd syth i Dduwdrwy'r diffeithwch!
4 Bydd pob dyffryn yn cael ei lenwi,pob mynydd a bryn yn cael ei lefelu.Bydd y tir anwastad yn cael ei wneud yn llyfn,a bydd cribau'r mynyddoedd yn wastatir.
5 Bydd ysblander yr ARGLWYDD yn dod i'r golwg,a bydd y ddynoliaeth gyfan yn ei weld yr un pryd.”—mae'r ARGLWYDD wedi dweud.
6 Mae'r llais yn dweud, “Gwaedda!”Ac un arall yn gofyn, “Gweiddi be?”“Mae pobl feidrol fel glaswellt,” meddai,“a ffyddlondeb dynol fel blodyn gwyllt:
7 mae'r glaswellt yn crino, a'r blodyn yn gwywopan mae'r ARGLWYDD yn chwythu arnyn nhw.”Ie, glaswellt ydy'r bobl.
8 Mae'r glaswellt yn crino, a'r blodyn yn gwywo,ond mae neges yr ARGLWYDD yn aros am byth!
9 Seion, sy'n cyhoeddi newyddion da,dringa i ben mynydd uchel!Ie, Jerwsalem, sy'n cyhoeddi newyddion da,gwaedda'n uchel!Gwaedda! Paid bod ag ofn!Dywed wrth drefi Jwda:“Dyma'ch Duw chi!”