9 Seion, sy'n cyhoeddi newyddion da,dringa i ben mynydd uchel!Ie, Jerwsalem, sy'n cyhoeddi newyddion da,gwaedda'n uchel!Gwaedda! Paid bod ag ofn!Dywed wrth drefi Jwda:“Dyma'ch Duw chi!”
10 Edrych! Mae'r Meistr, yr ARGLWYDD,yn dod fel milwr cryfi deyrnasu gyda nerth.Edrych! Mae ei wobr ganddo;mae'n dod a'i roddion o'i flaen.
11 Bydd yn bwydo ei braidd fel bugail:bydd yn codi'r ŵyn yn ei freichiauac yn eu cario yn ei gôl,tra'n arwain y defaid sy'n eu magu.
12 Pwy sydd wedi dal y moroedd yng nghledr ei law,a mesur yr awyr rhwng ei fysedd?Pwy sydd wedi dal pridd y ddaear mewn padell,pwyso'r mynyddoedd mewn mantola'r bryniau gyda chlorian?
13 Pwy sydd wedi gosod ffiniau i ysbryd yr ARGLWYDD,neu roi arweiniad iddo fel ei gynghorydd personol?
14 Gyda pwy mae Duw'n trafod i gael gwybod beth i'w wneud?Pwy sy'n ei ddysgu i wneud y peth iawn?Pwy sy'n rhoi gwybodaeth iddo?Pwy sy'n ei helpu i ddeall?
15 Dydy'r cenhedloedd ond diferyn mewn bwced;dim mwy na llwch ar glorian!Dydy'r ynysoedd yn ddim mwy na llwch mân.