1 Byddwch dawel a gwrando, ynysoedd;dw i am i'r bobloedd gael nerth newydd.Boed iddyn nhw nesáu i ddweud eu dweud.Gadewch i ni ddod at ein gilydd yn y llys barn.
2 Pwy sydd wedi codi'r un o'r dwyrain?Pwy mae Cyfiawnder yn ei alw i'w ddilyn?Mae'n rhoi gwledydd iddo eu concro,ac i fwrw eu brenhinoedd i lawr.Mae ei gleddyf yn eu gwneud fel llwch,a'i fwa yn eu gyrru ar chwâl fel us.
3 Mae'n mynd ar eu holau,ac yn pasio heibio'n ddianaf;dydy ei draed ddim yn cyffwrdd y llawr!
4 Pwy sydd wedi gwneud hyn i gyd?Pwy alwodd y cenedlaethau o'r dechrau? –Fi, yr ARGLWYDD, oedd yno ar y dechraua bydda i yno yn y diwedd hefyd. Fi ydy e!
5 Mae'r ynysoedd yn gweld, ac maen nhw'n ofni,mae pob cwr o'r ddaear yn crynu.Dyma nhw'n dod, maen nhw'n agos!