17 Ond am y bobl dlawd ac anghenussy'n chwilio am ddŵr ac yn methu cael dim;ac sydd bron tagu gan syched:bydda i, yr ARGLWYDD, yn eu hateb nhw;fydda i, Duw Israel, ddim yn eu gadael nhw.
18 Bydda i'n gwneud i nentydd lifo ar y bryniau anial,ac yn agor ffynhonnau yn y dyffrynnoedd.Bydda i'n troi'r anialwch yn byllau dŵr,a'r tir sych yn ffynhonnau.
19 Bydda i'n plannu coed cedrwydd yno,coed acasia, myrtwydd, ac olewydd;bydda i'n gosod coed cypres,coed llwyfen a choed pinwydd hefyd –
20 er mwyn i bobl weld a gwybod,ystyried a sylweddoli,mai'r ARGLWYDD sydd wedi gwneud hyn,ac mai Un Sanctaidd Israel sydd wedi peri iddo ddigwydd.
21 “Cyflwynwch eich achos,” meddai'r ARGLWYDD.“Sut ydych chi am bledio?”, meddai Brenin Jacob.
22 “Dewch â'ch duwiau yma i ddweud wrthon nibeth sy'n mynd i ddigwydd.Beth am ddweud wrthon ni beth broffwydon nhw yn y gorffennol? –i ni allu penderfynu wrth weld y canlyniadau.Neu ddweud beth sy'n mynd i ddigwydd yn y dyfodol?
23 Dwedwch wrthon ni beth sydd i ddod,er mwyn i ni gael gwybod eich bod chi'n dduwiau!Gwnewch rywbeth – da neu ddrwg –fydd yn ein rhyfeddu ni!