25 Fi wnaeth godi'r un o'r gogledd, ac mae wedi dod;yr un o'r dwyrain sy'n galw ar fy enw i.Mae wedi sathru arweinwyr fel sathru mwd,neu fel mae crochenydd yn sathru clai.
26 Pwy arall ddwedodd am hyn wrthon ni o'r dechrau?Pwy wnaeth ddweud am y peth ymlaen llaw,i ni allu dweud, ‘Roedd e'n iawn!’?Wnaeth neb sôn am y peth – ddwedodd neb ddim.Na, does neb wedi'ch clywed chi'n dweud gair!
27 Fi wnaeth ddweud gyntaf wrth Seion:‘Edrychwch! Maen nhw'n dod!’Fi wnaeth anfon negesydd gyda newyddion da i Jerwsalem!
28 Dw i'n edrych, a does yr un o'r rhainyn gallu rhoi cyngor nac ateb cwestiwn gen i.
29 Y gwir ydy, mae'n nhw'n afreal –dŷn nhw'n gallu gwneud dim byd o gwbl!Mae eu delwau metelmor ddisylwedd ag anadl!