3 Mae'n mynd ar eu holau,ac yn pasio heibio'n ddianaf;dydy ei draed ddim yn cyffwrdd y llawr!
4 Pwy sydd wedi gwneud hyn i gyd?Pwy alwodd y cenedlaethau o'r dechrau? –Fi, yr ARGLWYDD, oedd yno ar y dechraua bydda i yno yn y diwedd hefyd. Fi ydy e!
5 Mae'r ynysoedd yn gweld, ac maen nhw'n ofni,mae pob cwr o'r ddaear yn crynu.Dyma nhw'n dod, maen nhw'n agos!
6 Maen nhw'n helpu ei gilydd,ac mae un yn annog y llall, “Bydd yn ddewr!”
7 Mae'r saer coed yn annog y gof aur,a'r un sy'n bwrw gyda'r morthwylyn annog yr un sy'n taro'r einion.Mae'n canmol y gwaith sodro, “Mae'n dda!”ac yna'n ei hoelio'n saff, a dweud“Fydd hwnna ddim yn symud!”
8 Ond Israel, ti ydy fy ngwas i,Jacob, ti dw i wedi ei ddewis –disgynyddion Abraham, fy ffrind i.
9 Des i â ti yma o bell,a'th alw o ben draw'r byd;a dweud wrthot ti: “Ti ydy fy ngwas i.”Dw i wedi dy ddewis di!Dw i ddim wedi troi cefn arnat ti!