1 Dyma fy ngwas, yr un dw i'n ei gynnal;yr un dw i wedi ei ddewis, ac sydd wrth fy modd i!Rhof fy ysbryd iddo,a bydd yn dysgu cyfiawnder i'r cenhedloedd.
2 Fydd e ddim yn gweiddi a chodi ei lais,nac yn gadael i neb glywed ei lais ar y strydoedd.
3 Fydd e ddim yn torri brwynen fregus,nac yn diffodd llin sy'n mygu.Bydd e'n dangos y ffordd iawn i ni.
4 Fydd e ddim yn methu nac yn anobeithiones iddo sefydlu'r ffordd iawn ar y ddaear.Mae'r ynysoedd yn disgwyl am ei ddysgeidiaeth.”