14 “Dw i wedi bod yn ddistaw yn rhy hir;wedi cadw'n dawel, a dal fy hun yn ôl.Ond nawr, fel gwraig yn cael plentyn,dw i'n sgrechian a gwingo a griddfan.
15 Dw i'n mynd i ddifetha'r bryniau a'r mynyddoedd,a gwneud i bob tyfiant wywo.Dw i'n mynd i wneud yr afonydd yn sych,a sychu'r pyllau dŵr hefyd.
16 Dw i'n mynd i arwain y rhai sy'n ddallar hyd ffordd sy'n newydd,a gwneud iddyn nhw gerddedar hyd llwybrau sy'n ddieithr iddyn nhw.Bydda i'n gwneud y tywyllwch yn olau o'u blaenac yn gwneud y tir anwastad yn llyfn.Dyma dw i'n addo ei wneud –a dw i'n cadw fy ngair.
17 Bydd y rhai sy'n trystio eilunodyn cael eu gyrru'n ôl a'u cywilyddio,sef y rhai sy'n dweud wrth ddelwau metel,‘Chi ydy'n duwiau ni!’”
18 Gwrandwch, chi'r rhai byddar;ac edrychwch, chi sy'n ddall!
19 Pwy sy'n ddall fel fy ngwas,neu'n fyddar fel y negesydd dw i'n ei anfon?Pwy sy'n ddall fel yr un wedi ymrwymo iddo?Pwy sy'n ddall fel gwas yr ARGLWYDD?
20 Er dy fod yn gweld llawer, dwyt ti ddim yn ystyried;er bod gen ti glustiau, dwyt ti ddim yn gwrando.