18 Gwrandwch, chi'r rhai byddar;ac edrychwch, chi sy'n ddall!
19 Pwy sy'n ddall fel fy ngwas,neu'n fyddar fel y negesydd dw i'n ei anfon?Pwy sy'n ddall fel yr un wedi ymrwymo iddo?Pwy sy'n ddall fel gwas yr ARGLWYDD?
20 Er dy fod yn gweld llawer, dwyt ti ddim yn ystyried;er bod gen ti glustiau, dwyt ti ddim yn gwrando.
21 Roedd yr ARGLWYDD wedi ei blesio ei fod yn gyfiawn,a'i fod yn gwneud yn fawr o'r gyfraith, ac yn ei chadw.
22 Ond mae'r bobl hyn wedi colli popeth:maen nhw i gyd wedi eu dal mewn tyllau,a'u carcharu mewn celloedd.Maen nhw'n ysglyfaeth,a does neb i'w hachub;maen nhw'n ysbail,a does neb yn dweud “Rho nhw'n ôl!”
23 Pwy sy'n barod i wrando ar hyn?Gwrandwch yn astud o hyn ymlaen!
24 Pwy adawodd i Jacob gael ei ysbeilio,a rhoi Israel i'r lladron?Yr ARGLWYDD wrth gwrs –yr un wnaethon nhw bechu yn ei erbyn!Doedden nhw ddim am fyw fel roedd e eisiau,na bod yn ufudd i'w ddysgeidiaeth.