21 Roedd yr ARGLWYDD wedi ei blesio ei fod yn gyfiawn,a'i fod yn gwneud yn fawr o'r gyfraith, ac yn ei chadw.
22 Ond mae'r bobl hyn wedi colli popeth:maen nhw i gyd wedi eu dal mewn tyllau,a'u carcharu mewn celloedd.Maen nhw'n ysglyfaeth,a does neb i'w hachub;maen nhw'n ysbail,a does neb yn dweud “Rho nhw'n ôl!”
23 Pwy sy'n barod i wrando ar hyn?Gwrandwch yn astud o hyn ymlaen!
24 Pwy adawodd i Jacob gael ei ysbeilio,a rhoi Israel i'r lladron?Yr ARGLWYDD wrth gwrs –yr un wnaethon nhw bechu yn ei erbyn!Doedden nhw ddim am fyw fel roedd e eisiau,na bod yn ufudd i'w ddysgeidiaeth.
25 Felly dyma fe'n tywallt ei lid arnyn nhw,a thrais rhyfel.Roedd y fflamau o'u cwmpas ym mhobman,ond wnaethon nhw ddim dysgu'r wers.Cawson nhw eu llosgi,ond gymron nhw ddim sylw.