6 “Fi ydy'r ARGLWYDD,dw i wedi dy alw i wneud beth sy'n iawn,a gafael yn dy law.Dw i'n gofalu amdanat ti,ac yn dy benodi yn ganolwr fy ymrwymiad i bobl,ac yn olau i genhedloedd –
7 i agor llygaid y dall,rhyddhau carcharorion o'u celloedd,a'r rhai sy'n byw yn y tywyllwch o'r carchar.
8 Fi ydy'r ARGLWYDD, dyna fy enw i.Dw i ddim yn rhannu fy ysblander gyda neb arall,na rhoi'r clod dw i'n ei haeddu i ddelwau.
9 Mae'r pethau cyntaf ddwedais wedi dod yn wir,a nawr dw i'n cyhoeddi pethau newydd.Dw i'n gadael i chi glywed amdanyn nhwcyn iddyn nhw ddechrau digwydd.”
10 Canwch gân newydd i'r ARGLWYDD,canwch ei glod o ben draw'r byd –chi sy'n hwylio ar y môr, a'r holl greaduriaid sydd ynddo,a chi sy'n byw ar yr ynysoedd!
11 Boed i'r anialwch a'i drefi godi eu lleisiau,a'r pentrefi ble mae crwydriaid Cedar yn byw.Canwch yn llawen, chi sy'n byw yn Sela,a gweiddi'n uchel o ben y mynyddoedd.
12 Boed iddyn nhw roi clod i'r ARGLWYDD,a dweud am ei ysblander ar yr ynysoedd.