9 Mae'r pethau cyntaf ddwedais wedi dod yn wir,a nawr dw i'n cyhoeddi pethau newydd.Dw i'n gadael i chi glywed amdanyn nhwcyn iddyn nhw ddechrau digwydd.”
10 Canwch gân newydd i'r ARGLWYDD,canwch ei glod o ben draw'r byd –chi sy'n hwylio ar y môr, a'r holl greaduriaid sydd ynddo,a chi sy'n byw ar yr ynysoedd!
11 Boed i'r anialwch a'i drefi godi eu lleisiau,a'r pentrefi ble mae crwydriaid Cedar yn byw.Canwch yn llawen, chi sy'n byw yn Sela,a gweiddi'n uchel o ben y mynyddoedd.
12 Boed iddyn nhw roi clod i'r ARGLWYDD,a dweud am ei ysblander ar yr ynysoedd.
13 Mae'r ARGLWYDD yn mynd allan fel milwrar dân ac yn frwd i ymladd yn y rhyfel.Mae e'n gweiddi – yn wir, mae e'n rhuowrth ymosod ar ei elynion.
14 “Dw i wedi bod yn ddistaw yn rhy hir;wedi cadw'n dawel, a dal fy hun yn ôl.Ond nawr, fel gwraig yn cael plentyn,dw i'n sgrechian a gwingo a griddfan.
15 Dw i'n mynd i ddifetha'r bryniau a'r mynyddoedd,a gwneud i bob tyfiant wywo.Dw i'n mynd i wneud yr afonydd yn sych,a sychu'r pyllau dŵr hefyd.