1 Nawr, dyma mae'r ARGLWYDD yn ei ddweud – yr un wnaeth dy greu di, Jacob, a rhoi siâp i ti, Israel:“Paid bod ag ofn! Dw i wedi dy ollwng di'n rhydd!Dw i wedi dy alw wrth dy enw! Fi piau ti!
2 Pan fyddi di'n mynd trwy lifogydd, bydda i gyda ti;neu drwy afonydd, fyddan nhw ddim yn dy gario di i ffwrdd.Wrth i ti gerdded trwy dân, fyddi di'n cael dim niwed;fydd y fflamau ddim yn dy losgi di.
3 Achos fi ydy'r ARGLWYDD dy Dduw di,Un Sanctaidd Israel, dy Achubwr di!Rhoddais yr Aifft yn dâl amdanat ti,Cwsh a Seba yn dy le di.
4 Dw i'n dy drysori di, ac yn dy garu di,achos ti'n werthfawr yn fy ngolwg i.Dw i'n barod i roi'r ddynoliaeth yn gyfnewid amdanat ti,a'r bobloedd yn dy le di.
5 Paid bod ag ofn, achos dw i gyda ti.Bydda i'n dod â'th ddisgynyddion di yn ôl o'r dwyrain,ac yn dy gasglu di o'r gorllewin.
6 Bydda i'n dweud wrth y gogledd, ‘Gollwng nhw!’ac wrth y de, ‘Paid dal neb yn ôl!’Tyrd â'm meibion i o wledydd pell,a'm merched o ben draw'r byd –
7 pawb sydd â'm henw i arnyn nhw,ac wedi eu creu i ddangos fy ysblander i.Ie, fi wnaeth eu siapio a'u gwneud nhw.