24 Dwyt ti ddim wedi prynu sbeisiau pêr i mina'm llenwi gyda brasder dy aberthau.Yn lle hynny, rwyt ti wedi rhoi baich dy bechodau arna i,a'm blino gyda dy ddrygioni.
25 Fi, ie, fi – er fy mwyn fy hun –ydy'r un sy'n dileu dy wrthryfel di,ac yn anghofio am dy bechodau di.
26 Atgoffa fi. Gad i ni drafod gyda'n gilydd.Gad i mi glywed dy ochr di o'r stori;ceisia di brofi dy fod yn ddieuog!
27 Pechodd dy dad cyntaf yn fy erbyn i,wedyn cododd dy arweinwyr yn fy erbyn i.
28 Felly dyma fi'n halogi arweinwyr y cysegr,a gadael i Jacob gael ei alltudioac i Israel fod yn destun sbort.”