3 Achos fi ydy'r ARGLWYDD dy Dduw di,Un Sanctaidd Israel, dy Achubwr di!Rhoddais yr Aifft yn dâl amdanat ti,Cwsh a Seba yn dy le di.
4 Dw i'n dy drysori di, ac yn dy garu di,achos ti'n werthfawr yn fy ngolwg i.Dw i'n barod i roi'r ddynoliaeth yn gyfnewid amdanat ti,a'r bobloedd yn dy le di.
5 Paid bod ag ofn, achos dw i gyda ti.Bydda i'n dod â'th ddisgynyddion di yn ôl o'r dwyrain,ac yn dy gasglu di o'r gorllewin.
6 Bydda i'n dweud wrth y gogledd, ‘Gollwng nhw!’ac wrth y de, ‘Paid dal neb yn ôl!’Tyrd â'm meibion i o wledydd pell,a'm merched o ben draw'r byd –
7 pawb sydd â'm henw i arnyn nhw,ac wedi eu creu i ddangos fy ysblander i.Ie, fi wnaeth eu siapio a'u gwneud nhw.
8 Dewch â nhw allan!Y rhai sy'n ddall er bod ganddyn nhw lygaid,ac yn fyddar er bod ganddyn nhw glustiau.
9 Mae'r cenhedloedd i gyd wedi dod at ei gilydd,a gwledydd y byd wedi ymgasglu.Pa un o'u duwiau nhw ddwedodd am hyn,a dweud ymlaen llaw am beth sydd wedi digwydd?Gadewch iddyn nhw alw tystion i brofi eu hunain,er mwyn i bobl eu clywed, a dweud, ‘Mae'n wir!’”