8 Dewch â nhw allan!Y rhai sy'n ddall er bod ganddyn nhw lygaid,ac yn fyddar er bod ganddyn nhw glustiau.
9 Mae'r cenhedloedd i gyd wedi dod at ei gilydd,a gwledydd y byd wedi ymgasglu.Pa un o'u duwiau nhw ddwedodd am hyn,a dweud ymlaen llaw am beth sydd wedi digwydd?Gadewch iddyn nhw alw tystion i brofi eu hunain,er mwyn i bobl eu clywed, a dweud, ‘Mae'n wir!’”
10 “Chi ydy fy nhystion i,”—meddai'r ARGLWYDD—“a'r gwas dw i wedi ei ddewisi wybod ac i gadarnhaueich bod chi'n deall mai fi ydy e.Doedd dim duw o'm blaen i,a fydd yna ddim un ar fy ôl i.
11 Fi, ie fi ydy'r unig ARGLWYDD,a does neb ond fi yn gallu achub.
12 Fi wnaeth ddweud ymlaen llaw,fi wnaeth achub, fi wnaeth ei gyhoeddi,dim rhyw dduw dieithr –a dych chi'n dystion o'r peth.”—meddai'r ARGLWYDD—“Fi ydy'r unig Dduw,
13 Fi ydy e o'r dechrau cyntaf!Does neb yn gallu cipio rhywun oddi arna i.Pan dw i'n gwneud rhywbeth,does neb yn gallu ei ddadwneud.”
14 Dyma mae'r ARGLWYDD yn ei ddweud – yr un sy'n dy ryddhau, Un Sanctaidd Israel:“Dw i'n mynd i'w anfon e i Babilon er dy fwyn di.Bydda i'n bwrw ei barrau haearn i lawr,a throi bloeddio llawen y Babiloniaid yn alar.