14 Mae'n torri coed cedrwydd;mae'n dewis coeden gypres neu dderwensydd wedi tyfu'n gryf yng nghanol y goedwig.Mae'n plannu coed pinwydd,ac mae'r glaw yn gwneud iddyn nhw dyfu.
15 Mae'n defnyddio peth ohono fel coed tâni gadw ei hun yn gynnes.Mae'n cynnau tân i bobi bara gydag eac yn defnyddio'r gweddill i wneud duw i'w addoli!Mae'n cerfio eilun, ac yna'n plygu iddo!
16 Mae'n llosgi ei hanner yn y tânac yn rhostio cig arno.Mae'n bwyta'r cig nes mae ei fol yn llawn;ac yn cynhesu o flaen y tân, ac yn dweud,‘O! mae tân go iawn mor braf!’
17 Wedyn mae'n defnyddio beth sydd ar ôli wneud eilun yn dduw iddo'i hun!Mae'n plygu o'i flaen, ac yn ei addoli!Mae'n gweddïo arno a dweud,‘Achub fi! – ti ydy fy Nuw i!’
18 Dŷn nhw'n gwybod dim! Dŷn nhw ddim yn meddwl!Maen nhw wedi mynd yn ddall,ac mae eu meddyliau ar gau.
19 Dŷn nhw ddim yn meddwl am funud,dŷn nhw'n gwybod nac yn deall dim:‘Dw i wedi llosgi ei hanner yn y tân;wedi pobi bara arno,a rhostio cig i'w fwyta –yna gwneud y gweddill yn eilun ffiaidd!Dw i'n plygu i lawr i ddarn o bren!’
20 Mae e'n bwyta lludw!Mae ei feddwl wedi mynd ar gyfeiliorn!Mae'n methu achub ei hunna dod rownd i gyfaddef,‘Twyll ydy'r peth sydd yn fy llaw i!’