19 Dŷn nhw ddim yn meddwl am funud,dŷn nhw'n gwybod nac yn deall dim:‘Dw i wedi llosgi ei hanner yn y tân;wedi pobi bara arno,a rhostio cig i'w fwyta –yna gwneud y gweddill yn eilun ffiaidd!Dw i'n plygu i lawr i ddarn o bren!’
20 Mae e'n bwyta lludw!Mae ei feddwl wedi mynd ar gyfeiliorn!Mae'n methu achub ei hunna dod rownd i gyfaddef,‘Twyll ydy'r peth sydd yn fy llaw i!’
21 Cofia'r pethau yma, Jacobachos ti ydy fy ngwas i, Israel.Fi wnaeth dy siapio di, ac rwyt ti'n was i mi –fydda i ddim yn dy anghofio di, Israel.
22 Dw i wedi ysgubo dy wrthryfel di i ffwrdd fel cwmwl,a dy bechodau di fel niwl –Tro yn ôl ata i! Dw i wedi dy ryddhau di.”
23 Canwch fawl, nefoedd, achos mae'r ARGLWYDD wedi ei wneud!Gwaeddwch yn uchel, ddyfnderoedd y ddaear!Bloeddiwch, fynyddoedd,a'r fforestydd a'u holl goed!Achos mae'r ARGLWYDD wedi rhyddhau Jacob,ac wedi dangos ei ysblander yn Israel.
24 Dyma mae'r ARGLWYDD yn ei ddweud – yr un sy'n dy ryddhau di; yr un wnaeth dy siapio di yn y groth:“Fi, yr ARGLWYDD, sydd wedi gwneud y cwbl:fi fy hun wnaeth daenu'r awyr,a lledu'r ddaear ar fy mhen fy hun.
25 Fi sy'n torri swynion dewiniaid,ac yn gwneud ffyliaid o'r rhai sy'n darogan;gwneud i'r doethion lyncu eu geiriau,a gwneud nonsens o'u gwybodaeth nhw.