8 Peidiwch bod ag ofn! Peidiwch dychryn!Ydw i ddim wedi dweud wrthoch chi ers talwm?Do, dw i wedi dweud, a chi ydy'r tystion!Oes yna unrhyw dduw arall ar wahân i mi?Na, does dim Craig arall; dw i ddim yn gwybod am un!
9 Mae'r rhai sy'n gwneud eilunodyn gwastraffu eu hamser.Dydy'r pethau maen nhw mor hoff ohonyn nhwyn dda i ddim!A dydy'r rhai sy'n tystio iddyn nhw ddim yn gweld!Dŷn nhw'n gwybod dim –ac felly maen nhw'n cael eu cywilyddio.
10 Pwy sy'n ddigon dwl i wneud duwneu gastio delw all wneud dim?
11 Mae pawb sy'n gweithio arnoyn cael eu cywilyddio.Crefftwyr, ie, ond creaduriaid meidrol ydyn nhw.Gadewch iddyn nhw ddod at ei gilydd i wneud safiad!Byddan nhw'n cael eu dychryn a'u cywilyddio.
12 Mae'r gof yn defnyddio'i offeri baratoi'r metel ar y tân.Mae'n ei siapio gyda morthwyl,ac yn gweithio arno gyda nerth bôn braich.Ond pan mae eisiau bwyd arno, mae ei nerth yn pallu;heb yfed dŵr, byddai'n llewygu.
13 Mae'r saer coed yn ei fesur gyda llinyn,ac yn ei farcio gyda phensil;mae'n ei lyfnhau gyda plaen,ac yn ei farcio gyda chwmpawd.Yna mae'n ei gerfio i siâp dynol;ei wneud i edrych fel bod dynol, a'i osod mewn teml.
14 Mae'n torri coed cedrwydd;mae'n dewis coeden gypres neu dderwensydd wedi tyfu'n gryf yng nghanol y goedwig.Mae'n plannu coed pinwydd,ac mae'r glaw yn gwneud iddyn nhw dyfu.