1 Dyma mae'r ARGLWYDD yn ei ddweud wrth Cyrus, yr un mae wedi ei eneinio; yr un mae wedi gafael yn ei law, iddo sathru gwledydd o'i flaen a diarfogi brenhinoedd. Yr un mae wedi agor drysau iddo heb adael unrhyw giât ar gau:
2 “Dw i'n mynd o dy flaen dii fwrw waliau dinasoedd i lawr,dryllio drysau presa thorri'r barrau haearn.
3 Dw i'n mynd i roi i ti drysorau sydd yn y tywyllwch,stôr o gyfoeth wedi ei guddio o'r golwg –er mwyn i ti wybod mai fi, yr ARGLWYDD,Duw Israel, sydd wedi dy alw di wrth dy enw.
4 Dw i wedi dy alw di wrth dy enwer mwyn fy ngwas Jacob,ac er mwyn Israel, yr un dw i wedi ei ddewis.Dw i'n mynd i roi teitl i ti,er nad wyt ti'n fy nabod.
5 Fi ydy'r ARGLWYDD a does dim un arall;does dim duw ar wahân i mi.Dw i'n mynd i dy arfogi di,er nad wyt ti'n fy nabod.
6 Dw i eisiau i bawb, o'r dwyrain i'r gorllewin,wybod fod neb arall ond fi.Fi ydy'r ARGLWYDD a does dim un arall.
7 Fi sy'n rhoi golau, ac yn creu twyllwch,yn dod â heddwch ac yn creu trwbwl –Fi, yr ARGLWYDD, sy'n gwneud y cwbl.