15 Ti'n sicr yn Dduw sy'n cuddio ei hun,O Dduw Israel, yr un sy'n achub!
16 Bydd y rhai sy'n cerfio eilunodyn teimlo cywilydd ac embaras –byddan nhw i gyd yn sleifio i ffwrdd mewn cywilydd.
17 Y mae Israel yn saff gyda'r ARGLWYDDac yn cael ei hachub am byth!Fydd hi ddim yn profi cywilydd nac embarasbyth bythoedd!
18 Dyma mae'r ARGLWYDD yn ei ddweud, sef Crëwr y nefoedd! Yr unig Dduw! Yr un wnaeth y ddaear, ei siapio a'i gosod yn ei lle – nid i fod yn ddiffaith, ond i bobl fyw arni:“Fi ydy'r ARGLWYDD, does dim un arall.
19 Dw i ddim wedi siarad yn gyfrinachol,mewn rhyw le tywyll.Wnes i ddim dweud wrth blant Jacob,‘Edrychwch amdana i i ddim pwrpas’ –Dw i, yr ARGLWYDD, yn dweud beth sy'n iawn,ac yn dweud y gwir.
20 Dewch yma at eich gilydd.Dewch ata i gyda'ch gilydd,chi ffoaduriaid y cenhedloedd!Dydy'r rhai sy'n cario delwau pren yn gwybod dim,na'r rhai sy'n gweddïo ar dduwiausydd ddim yn gallu achub!
21 Cyflwynwch eich tystiolaeth –gadewch iddyn nhw drafod gyda'i gilydd!Pwy ddwedodd am hyn ymlaen llaw?Pwy soniodd am y peth o'r dechrau?Onid fi, yr ARGLWYDD?Does dim duw arall yn bod ar wahân i mi!Fi ydy'r Duw cyfiawn sy'n achub –does dim un arall!