21 Cyflwynwch eich tystiolaeth –gadewch iddyn nhw drafod gyda'i gilydd!Pwy ddwedodd am hyn ymlaen llaw?Pwy soniodd am y peth o'r dechrau?Onid fi, yr ARGLWYDD?Does dim duw arall yn bod ar wahân i mi!Fi ydy'r Duw cyfiawn sy'n achub –does dim un arall!
22 Dewch o ben draw'r byd;trowch ata i i gael eich achub!Achos fi ydy Duw, a does dim un arall.
23 Dw i wedi mynd ar fy llw,dw i'n dweud y gwir,fydda i'n cymryd dim yn ôl:‘Bydd pob glin yn plygu i mi,a phob tafod yn tyngu i mi!
24 Byddan nhw'n dweud: “Ydy, mae'r ARGLWYDDyn Dduw cyfiawn a chryf!”’”Bydd y rhai gododd yn ei erbynyn troi ato mewn cywilydd.
25 Bydd disgynyddion Israelyn cael eu hachub gan yr ARGLWYDDac yn canu mawl iddo.