4 Dw i wedi dy alw di wrth dy enwer mwyn fy ngwas Jacob,ac er mwyn Israel, yr un dw i wedi ei ddewis.Dw i'n mynd i roi teitl i ti,er nad wyt ti'n fy nabod.
5 Fi ydy'r ARGLWYDD a does dim un arall;does dim duw ar wahân i mi.Dw i'n mynd i dy arfogi di,er nad wyt ti'n fy nabod.
6 Dw i eisiau i bawb, o'r dwyrain i'r gorllewin,wybod fod neb arall ond fi.Fi ydy'r ARGLWYDD a does dim un arall.
7 Fi sy'n rhoi golau, ac yn creu twyllwch,yn dod â heddwch ac yn creu trwbwl –Fi, yr ARGLWYDD, sy'n gwneud y cwbl.
8 Arllwys law i lawr, o awyr!Glawiwch gyfiawnder, gymylau!Agor, ddaear! er mwyn i achubiaeth dyfu,ac i degwch flaguro:Fi, yr ARGLWYDD, sydd wedi ei wneud.”
9 Gwae'r sawl sy'n dadlau gyda'i Wneuthurwr,ac yntau'n ddim byd ond darn o lestr wedi torri ar lawr!Ydy'r clai yn dweud wrth y crochenydd,“Beth yn y byd wyt ti'n wneud?”neu, “Does dim dolen ar dy waith”?
10 Gwae'r un sy'n dweud wrth dad,“Beth wyt ti'n ei genhedlu?”neu wrth fam, “Beth wyt ti'n ei eni?”