4 A bydd pethau yr un fath pan fyddwch chi'n hen;bydda i'n dal i'ch cario chi pan fydd eich gwallt wedi troi'n wyn!Fi wnaeth chi, a fi sy'n eich cario chi –fi sy'n gwneud y cario, a fi sy'n achub.
5 Pwy sy'n cymharu hefo fi?Oes rhywun tebyg i mi?Dwedwch i bwy dw i'n debyg?Oes rhywun sydd yr un fath â mi?
6 Mae rhai pobl yn gwagio'r aur o'u pwrsac yn pwyso eu harian mewn clorian,yna'n talu gweithiwr metel i wneud duw iddyn nhw,ac wedyn yn ei addoli a syrthio ar eu hwynebau o'i flaen!
7 Mae'n rhaid iddyn nhw ei gario ar eu hysgwyddau,ac wedyn maen nhw'n ei osod ar ei draed,a dydy e ddim yn gallu symud!Os ydy rhywun yn galw arno, dydy e ddim yn ateb;a dydy e ddim yn gallu achub neb o'i trafferthion!
8 Cofiwch chi hynny, a dal gafael yn y ffaith!Meddyliwch am y peth, chi wrthryfelwyr!
9 Cofiwch beth dw i wedi ei wneud yn y gorffennol.Achos fi sydd Dduw, a does dim un arall yn bod.Fi ydy Duw, a does neb tebyg i mi.
10 Dw i'n dweud o'r dechrau beth fydd yn digwydd ar y diwedd,ac yn dangos ymlaen llaw bethau sydd heb ddigwydd eto.Dw i'n dweud: ‘Bydd fy nghynllun i yn digwydd;Dw i'n cyflawni popeth dw i'n ei fwriadu.’