7 Mae'n rhaid iddyn nhw ei gario ar eu hysgwyddau,ac wedyn maen nhw'n ei osod ar ei draed,a dydy e ddim yn gallu symud!Os ydy rhywun yn galw arno, dydy e ddim yn ateb;a dydy e ddim yn gallu achub neb o'i trafferthion!
8 Cofiwch chi hynny, a dal gafael yn y ffaith!Meddyliwch am y peth, chi wrthryfelwyr!
9 Cofiwch beth dw i wedi ei wneud yn y gorffennol.Achos fi sydd Dduw, a does dim un arall yn bod.Fi ydy Duw, a does neb tebyg i mi.
10 Dw i'n dweud o'r dechrau beth fydd yn digwydd ar y diwedd,ac yn dangos ymlaen llaw bethau sydd heb ddigwydd eto.Dw i'n dweud: ‘Bydd fy nghynllun i yn digwydd;Dw i'n cyflawni popeth dw i'n ei fwriadu.’
11 Fi alwodd yr aderyn rheibus yna o'r dwyrain;yr un ddaeth o bell i gyflawni fy mhwrpas i.Pan dw i'n dweud rhywbeth, mae'n siŵr o ddigwydd;fi sydd wedi ei gynllunio, a bydda i'n siŵr o'i wneud!
12 Gwrandwch arna i, chi bobl benstiff,sy'n cadw draw oddi wrth beth sy'n iawn:
13 Dw i ar fin gwneud pethau'n iawn;dydy hyn ddim yn y dyfodol pell –fydd achubiaeth ddim yn cael ei ohirio.Dw i'n mynd i achub Seion!A rhoi fy ysblander i Israel!”