1 “I lawr â ti! Eistedd yn y llwch,o wyryf, ferch Babilon.Eistedd ar lawr ferch y Babiloniaid,mae dy ddyddiau ar yr orsedd wedi darfod.Gei di ddim dy alwyn dyner ac yn dlos byth eto.
2 Gafael yn y felin law i falu blawd.Tynn dy fêl, rhwyga dy wisg,a dangos dy goesauwrth gerdded drwy afonydd.
3 Byddi'n gwbl noeth, a bydddy rannau preifat yn y golwg.Dw i'n mynd i ddial,a fydd neb yn fy rhwysto i.”
4 Dyna mae'r un sy'n ein gollwng ni'n rhydd yn ei ddweud—yr ARGLWYDD holl-bwerus ydy ei enw—Un Sanctaidd Israel.
5 “Eistedd yn dawel! Dos i'r tywyllwch,ferch y Babiloniaid.Gei di ddim dy alwyn ‛Feistres y Teyrnasoedd‛ byth eto.