3 Byddi'n gwbl noeth, a bydddy rannau preifat yn y golwg.Dw i'n mynd i ddial,a fydd neb yn fy rhwysto i.”
4 Dyna mae'r un sy'n ein gollwng ni'n rhydd yn ei ddweud—yr ARGLWYDD holl-bwerus ydy ei enw—Un Sanctaidd Israel.
5 “Eistedd yn dawel! Dos i'r tywyllwch,ferch y Babiloniaid.Gei di ddim dy alwyn ‛Feistres y Teyrnasoedd‛ byth eto.
6 Roeddwn wedi digio gyda'm pobl,felly cosbais fy etifeddiaeth;rhoddais nhw yn dy ddwylo di,ond wnest ti ddangos dim trugaredd atyn nhw.Roeddet ti hyd yn oed yn cam-drinpobl mewn oed.
7 ‘Fi fydd y feistres am byth,’ meddet ti.Wnest ti ddim meddwl am funudbeth fyddai'n digwydd yn y diwedd.
8 Felly, gwrando ar hyn, ti sy wedi dy sbwylio –ti sy'n ofni neb na dim, ac yn meddwl,‘Fi ydy'r un! – Does neb tebyg i mi!Fydda i byth yn weddw,nac yn gwybod beth ydy colli plant.’
9 Ond yn sydyn bydd y ddau bethyn digwydd ar yr un diwrnod:colli dy blant a chael dy hun yn weddw.Byddi'n cael dy lethu'n llwyr ganddyn nhw,er gwaetha dy holl ddewinoa'th swynion gorau.