1 Gwrandwch ar hyn, bobl Jacob –chi sy'n cael eich galw wrth yr enw ‛Israel‛ac yn ddisgynyddion i Jwda;sy'n tyngu i enw'r ARGLWYDDac yn galw ar Dduw Israel –ond heb fod yn ddidwyll wrth wneud hynny.
2 (Maen nhw'n galw eu hunain yn ‛bobl y ddinas sanctaidd‛,ac yn honni pwyso ar Dduw Israel,sef yr ARGLWYDD holl-bwerus):
3 “Dw i wedi sôn ers talwm am y pethau fyddai'n digwydd;dwedais yn glir i bawb glywed.Yna'n sydyn gweithredais, a dyma nhw'n digwydd.
4 Ro'n i'n gwybod mor benstiff wyt ti –mae gewynnau dy wddf fel haearna dy dalcen yn galed fel pres.
5 Dyna pam wnes i roi gwybod i ti'n bell yn ôl,a dweud yn glir cyn i ddim ddigwydd –rhag i ti ddweud, ‘Fy eilun-dduw wnaeth hyn,fy eilun a'm delw metel wnaeth ei drefnu.’
6 Ti wedi clywed hyn i gyd; edrych,pam wnei di ddim cydnabod y peth?A nawr dw i'n mynd i ddweud pethau newydd,pethau cudd allet ti ddim eu gwybod o'r blaen