10 Edrych, dw i wedi dy buro di, ond nid fel arian;dw i wedi dy brofi di yn ffwrnais dioddefaint.
11 Er fy mwyn fy hun yn unig dw i'n gwneud hyn –Pam dylai fy enw da gael ei halogi?Dw i ddim yn rhannu fy ysblander gyda neb arall!
12 Gwrandwch arna i, bobl Jacob,ac Israel, y rhai dw i wedi eu galw:Fi ydy e – fi ydy'r cyntaf,a fi ydy'r olaf hefyd.
13 Gosodais sylfeini'r ddaear gyda'm dwylo fy hun,a lledu'r awyr gyda'm llaw dde.Dw i'n eu galw nhw,ac maen nhw'n sefyll gyda'i gilydd.
14 ‘Dewch at eich gilydd i gyd, a gwrando!Pa un o'ch duwiau ddwedodd am y pethau yma? –y bydd ffrind yr ARGLWYDDyn cyflawni ei fwriad yn erbyn Babilon,ac yn defnyddio'i holl nerth yn erbyn pobl Caldea.’
15 Fi ddwedodd! Fi alwodd e.Fi ddaeth ag e allan, a bydd yn llwyddo.
16 Dewch ata i yma i glywed hyn:‘Dw i ddim wedi siarad yn gyfrinachol erioed;a pan mae'n digwydd dw i yna.’”Felly nawr mae fy Meistr, sef yr ARGLWYDD,wedi fy anfon i gyda'i ysbryd.