13 Gosodais sylfeini'r ddaear gyda'm dwylo fy hun,a lledu'r awyr gyda'm llaw dde.Dw i'n eu galw nhw,ac maen nhw'n sefyll gyda'i gilydd.
14 ‘Dewch at eich gilydd i gyd, a gwrando!Pa un o'ch duwiau ddwedodd am y pethau yma? –y bydd ffrind yr ARGLWYDDyn cyflawni ei fwriad yn erbyn Babilon,ac yn defnyddio'i holl nerth yn erbyn pobl Caldea.’
15 Fi ddwedodd! Fi alwodd e.Fi ddaeth ag e allan, a bydd yn llwyddo.
16 Dewch ata i yma i glywed hyn:‘Dw i ddim wedi siarad yn gyfrinachol erioed;a pan mae'n digwydd dw i yna.’”Felly nawr mae fy Meistr, sef yr ARGLWYDD,wedi fy anfon i gyda'i ysbryd.
17 Dyma mae'r ARGLWYDD sy'n dy ollwng yn rhydd yn ei ddweud – Un Sanctaidd Israel:“Fi ydy'r ARGLWYDD dy Dduw,sy'n dy ddysgu di er dy les,ac yn dy arwain di ar hyd y ffordd y dylet ti fynd.
18 O na fyddet ti wedi gwrando ar fy ngorchmynion!Byddai dy heddwch yn llifo fel afon,a dy gyfiawnder fel tonnau'r môr.
19 Byddai gen ti ddisgynyddion fel y tywod,a plant mor niferus â'r gronynnau o dywod.Fyddai eu henw nhw ddim wedi ei dorri i ffwrdda'i ddileu o'm gŵydd i.