4 Ro'n i'n gwybod mor benstiff wyt ti –mae gewynnau dy wddf fel haearna dy dalcen yn galed fel pres.
5 Dyna pam wnes i roi gwybod i ti'n bell yn ôl,a dweud yn glir cyn i ddim ddigwydd –rhag i ti ddweud, ‘Fy eilun-dduw wnaeth hyn,fy eilun a'm delw metel wnaeth ei drefnu.’
6 Ti wedi clywed hyn i gyd; edrych,pam wnei di ddim cydnabod y peth?A nawr dw i'n mynd i ddweud pethau newydd,pethau cudd allet ti ddim eu gwybod o'r blaen
7 pethau newydd sbon, ddim o'r gorffennol.Dwyt ti ddim wedi clywed hyn cyn heddiw,rhag i ti ddweud, ‘Ro'n i'n gwybod hynny!’
8 Dwyt ti ddim wedi clywed, dwyt ti ddim yn gwybod;allet ti ddim bod wedi clywed hyn o'r blaen.Er fy mod i'n gwybod dy fod ti'n twylloac yn cael dy alw'n rebel ers i ti gael dy eni,
9 dw i wedi atal fy llid er mwyn cadw fy enw daa bod yn amyneddgar er mwyn i mi gael fy moli;dw i wedi ymatal rhag dy ddinistrio di.
10 Edrych, dw i wedi dy buro di, ond nid fel arian;dw i wedi dy brofi di yn ffwrnais dioddefaint.