13 Cân nefoedd, a dathla, ddaear!Torrwch allan i ganu'n llawen, fynyddoedd!Achos mae'r ARGLWYDD wedi cysuro ei bobl,ac wedi tosturio wrth y rhai fu'n dioddef.
14 “Dwedodd Seion, ‘Mae'r ARGLWYDD wedi troi cefn arna i;mae fy Meistr wedi fy anghofio i.’
15 Ydy gwraig yn gallu anghofio'r babi ar ei bron?Ydy hi'n gallu peidio dangos tosturi at ei phlentyn?Hyd yn oed petaen nhw yn anghofio,fyddwn i'n sicr ddim dy anghofio di!
16 Dw i wedi cerfio dy enw ar gledrau fy nwylo!Wna i byth golli golwg ar dy waliau di.
17 Bydd dy adeiladwyr yn gweithio'n gyflymachna'r rhai wnaeth dy ddinistrio di;mae'r rhai achosodd y fath lanast wedi mynd!
18 Edrych o dy gwmpas!Maen nhw i gyd yn ymgasglu! Maen nhw'n dod atat ti!Mor sicr â'r ffaith fy mod i'n fyw,”—yr ARGLWYDD sy'n dweud hyn—“byddi di'n eu gwisgo nhw fel gemau,ac fel priodferch yn ei gwisg briodas.
19 Er dy fod wedi dy daro,dy ddifetha a dy ddinistrio fel gwlad,bellach fydd dim digon o le i bawb sydd am fyw ynot ti,a bydd y rhai wnaeth dy ddinistrio yn bell i ffwrdd.