7 Dyma mae'r ARGLWYDD – sy'n rhyddhau Israel, yr Un Sanctaidd – yn ei ddweud wrth yr un sy'n cael ei dirmygu; cenedl sy'n cael ei ffieiddio, a gwas y rhai sy'n llywodraethu:“Bydd brenhinoedd yn gweld ac yn codi ar eu traed,a bydd tywysogion yn ymgrymu,am fod yr ARGLWYDD, sydd wedi bod mor ffyddlon,Un Sanctaidd Israel wedi dy ddewis di.”
8 Dyma mae'r ARGLWYDD yn ei ddweud:“Bydda i'n dy ateb di pan fydd yr amser yn iawn,ac yn dy helpu di pan ddaw'r dydd i mi achub.Fi sydd wedi dy siapio di,a dy benodi di'n ganolwr fy ymrwymiad i'r bobl –bydda i'n adfer y wlad,ac yn rhoi'r hawliau ar y tir yn ôl i'w phobl.
9 Byddi'n dweud wrth garcharorion, ‘Cewch fod yn rhydd,’ac wrth y rhai sy'n y tywyllwch, ‘Dewch i'r golwg.’Byddan nhw fel defaid yn pori ar ochr y ffyrdd,ac yn cael porfa ar lethrau'r bryniau.
10 Fydd dim syched nag eisiau bwyd arnyn nhw;fydd y gwynt poeth a'r haul ddim yn eu taro nhw.Achos bydd yr un sy'n eu caru nhw yn eu harwain,ac yn mynd â nhw at ffynhonnau o ddŵr.
11 Bydda i'n gwneud y mynyddoedd yn ffordd agored,ac yn adeiladu priffyrdd amlwg.”
12 Edrychwch! Mae rhai yn dod o bell.Edrychwch! Mae rhai yn dod o'r gogledd,eraill o'r gorllewin, a rhai o wlad Sinim.
13 Cân nefoedd, a dathla, ddaear!Torrwch allan i ganu'n llawen, fynyddoedd!Achos mae'r ARGLWYDD wedi cysuro ei bobl,ac wedi tosturio wrth y rhai fu'n dioddef.