1 Gad i mi ganu cân i'm cariad annwyl –Cân fy nghariad am ei winllan.Roedd gan fy nghariad winllanar fryn oedd yn ffrwythlon iawn.
2 Palodd y tir a chlirio'r cerrig,a phlannu gwinwydden arbennig ynddi.Adeiladodd dŵr gwylio yn ei chanol,a naddu gwinwasg ynddi.Roedd yn disgwyl cael grawnwin da,ond gafodd e ddim ond rhai drwg.
3 Felly, chi bobl Jerwsalema'r rhai sy'n byw yn Jwda –Beth ydy'ch barn chi?Beth ddylwn ni ei wneud gyda'm gwinllan?
4 Oedd yna rywbeth mwyy gallwn ei wneud i'm gwinllannag a wnes i?Pan oeddwn i'n disgwyl cael grawnwin dapam ges i ddim ond rhai drwg?
5 Nawr, gadewch i mi ddweud wrthoch chibe dw i'n mynd i wneud gyda'm gwinllan:Dw i'n mynd i symud ei chlawdd iddi gael ei dinistrio;a chwalu'r wal iddi gael ei sathru dan draed.
6 Bydda i'n ei gwneud yn dir diffaith;fydd neb yn ei thocio na'i chwynnu,a bydd yn tyfu'n wyllt gyda mieri a drain.A bydda i'n gorchymyn i'r cymylaubeidio glawio arni.