10 Bydd deg acer o winllanyn rhoi llai na chwe galwyn o win;a chae lle heuwyd deg mesur o hadyn rhoi ond un mesur yn ôl.
11 Gwae'r rhai sy'n codi'n fore i yfed diod feddwol,ac yn aros ar eu traed gyda'r nosdan ddylanwad gwin.
12 Y rhai sy'n cael partïongyda'r delyn a'r nabl,y drwm a'r pib – a gwin!Ond sy'n cymryd dim sylw o'r ARGLWYDD,nac yn gweld beth mae'n ei wneud.
13 Felly,bydd fy mhobl yn cael eu caethgludoam beidio cymryd sylw.Bydd y bobl fawr yn marw o newyn,a'r werin yn gwywo gan syched.
14 Bydd chwant bwyd ar fyd y meirw,bydd yn agor ei geg yn anferth,a bydd ysblander Jerwsalem a'i chyffro,ei sŵn a'i sbri yn llithro i lawr iddo.
15 Bydd pobl yn cael eu darostwnga pawb yn cywilyddio;bydd llygaid y balch wedi syrthio.
16 Ond bydd yr ARGLWYDD holl-bweruswedi ei ddyrchafu trwy ei gyfiawnder;a'r Duw sanctaiddwedi profi ei fod yn sanctaidd drwy ei degwch.