14 Bydd chwant bwyd ar fyd y meirw,bydd yn agor ei geg yn anferth,a bydd ysblander Jerwsalem a'i chyffro,ei sŵn a'i sbri yn llithro i lawr iddo.
15 Bydd pobl yn cael eu darostwnga pawb yn cywilyddio;bydd llygaid y balch wedi syrthio.
16 Ond bydd yr ARGLWYDD holl-bweruswedi ei ddyrchafu trwy ei gyfiawnder;a'r Duw sanctaiddwedi profi ei fod yn sanctaidd drwy ei degwch.
17 Bydd ŵyn yn pori yno fel yn eu cynefin,a chrwydriaid yn bwyta yn adfeilion y cyfoethog.
18 Gwae'r rhai sy'n llusgo drygioni gyda rhaffau twyll,a llusgo pechod ar eu holau fel trol!
19 Y rhai sy'n dweud,“Gadewch iddo wneud rhywbeth yn sydyn,i ni gael gweld;Gadewch i ni weld pwrpas Un Sanctaidd Israel,i ni gael gwybod beth ydy e!”
20 Gwae'r rhai sy'n galw drwg yn ddaa da yn ddrwg;sy'n dweud fod tywyllwch yn olaua golau yn dywyllwch;sy'n galw'r chwerw yn felysa'r melys yn chwerw!