22 Gwae'r rhai sy'n arwyr wrth yfed gwin –ac yn meddwl eu bod nhw'n rêl bois wrth gymysgu'r diodydd!
23 Y rhai sy'n gollwng troseddwyr yn rhydd am freib,ac yn gwrthod rhoi dedfryd gyfiawn i'r dieuog.
24 Felly, fel gwellt yn llosgi yn y fflamaua gwair yn crino yn y gwres,bydd eu gwreiddiau yn pydru,a'u blagur yn cael ei chwythu ymaith fel llwch.Am eu bod wedi gwrthod beth mae'r ARGLWYDD holl-bwerus yn ei ddysgu,a chymryd dim sylw o neges Un Sanctaidd Israel.
25 Dyna pam roedd yr ARGLWYDDwedi digio gyda'i bobl.Dyna pam wnaeth e droi yn eu herbyn nhw,a'u taro nhw.Roedd y mynyddoedd yn crynu,a'r cyrff yn gorwedd fel sbwriel ar y strydoedd.Ac eto wnaeth Duw ddim tawelu,roedd yn dal yn eu herbyn nhw.
26 Bydd e'n codi baner i alw cenedl o bell,ac yn chwibanu ar un o ben draw'r byd.Ac edrychwch, maen nhw'n dod ar ras wyllt!
27 Does neb yn blino nac yn baglu'n ei rhengoedd;neb yn pendwmpian nac yn cysgu;neb â'i felt wedi ei datod,na charrai ei esgid wedi torri.
28 Mae eu saethau'n finiog,a'u bwâu i gyd yn dynn.Mae carnau'r meirch yn galed fel carreg,ac olwynion eu cerbydau yn troi fel corwynt.